Pili Pala (Ystafell Fabanod)

Gallaf gerdded, ond hoffwn gael cwtsh wrth ffarwelio â Dad. Shelley neu Di tra bod hi’n cymryd fy nhymheredd, maen nhw’n fy helpu i dynnu fy nghot a gallaf fynd yn syth i chwarae gyda theganau wrth i mi aros i’m ffrindiau gyrraedd. Rwy’n hoffi chwarae ar y sleid a gyda’r blociau adeiladu.

Ar ôl brecwast mae Sara yn newid ein clytiau tra bod Tia ystyn y paent. Rwyf wrth fy modd yn cymysgu paent efo fy nwylo. Mae rhai o fy ffrindiau’n mynd i gysgu. Mae yna lawer o deganau i ni chwarae gyda nhw ac rydan ni bob amser yn canu ond fy hoff beth i’w wneud yw mynd allan i’r ardd.

Mae gan rai o fy ffrindiau botel o laeth, mae nhw’n cael llawer o fwythau wrth iddyn nhw ei yfed. Mae’n well gen i gael cwtsh wrth edrych ar lyfrau oherwydd fy mod i’n fachgen mawr a dwi’n gallu yfed allan o fy bicer.

Ar ôl byrbryd rydan ni’n mynd i’r ystafell synhwyraidd. Mae rhai o fy ffrindiau’n hoffi mynd i gysgu gyda Di ond rydw i wrth fy modd â’r goleuadau a’r gerddoriaeth. Yna mae’n bryd newid clytiau eto ac rydw i’n cael hwyl yn chwarae toes, mae’n gwneud i mi chwethin.

Cyn cinio mae gennym stori gyda’r teganau ac yna mae’n amser cael bwyd cyn mynd i gysgu. Mae gen i flanced fy hun a dwi wrth fy modd yn gorwedd yn fy nghot yn gwrando ar y cerddoriaeth gyda goleuadau clyd yn gwneud cysgodion.

Pan fyddaf yn deffro rwy’n barod am antur arall. Rwy’n gobeithio bod Shelley wedi gwneud gleiniau dŵr yn barod ar fy nghyfer. Mae fy ffrind Casi yn hoffi troi’r olwynion ar y wal weithgareddau tra bod Efan yn adeiladu blociau ac Efa yn sbecian trwy ffenest y tŷ bach.

Mae amser te yn cyrraedd yn sydyn ac unwaith rydyn ni i gyd wedi bwyta ffwrdd a ni am antur arall, tro yma gyda sgarffiau a cherddoriaeth yn yr ystafelloedd synhwyraidd wrth i ni aros am ein Mamau a’n Tadau.