Arwyddo Babi

Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Plant

Mae cyfathrebu yn gonglfaen i Sylfeini dysgu. Mae plant sy’n gyfathrebwyr hyderus yn profi llai o rwystredigaeth sy’n lleihau strancio ac yn cynorthwyo i ddatblygu aeddfedrwydd emosiynol.

Bydd yr holl blant ym Meithrinfa Sêr Bach yn elwa o’n profiad o ddatblygu sgiliau cyfathrebu gyda phlant o ystod eang o alluoedd.

Mae’r holl staff ym Meithrinfa Sêr Bach wedi’u hyfforddi ym Makaton gan Cheryl sy’n Diwtor Rhanbarthol i’r elusen Makaton. O oedran ifanc bydd y plant yn dysgu rhai arwyddion a fydd yn eu helpu i ofyn am yr hyn maen nhw ei eisiau, er enghraifft diod, pêl, banana.

Mae gan bob plentyn llais a bydd pawb yn gwrando arnynt, parchir eu barn a’u syniadau ac yn eu tro fe’u hanogir hefyd i wrando ar eraill, ymateb yn barchus a byddant yn dod yn hyderus ac yn gymdeithasol.

Mae plant yn mynegi eu hunain yn llwyddiannus ac yn gwneud penderfyniadau yn hyderus

Adroddiad Arolygu CIW Ionawr 2019

Rhywfaint o Wybodaeth Ddefnyddiol
  • Defnyddir arwyddion bob amser ar y cyd â lleferydd.
  • Mae’r rhannau o’r ymennydd a ddefnyddir i reoli’r symudiadau a wneir yn ystod arwydd yn gysylltiedig â’r rhan o’r ymennydd sy’n datblygu lleferydd ac felly bydd arwyddo yn annog lleferydd yn gyflymach.
  • Mae hyn yn ei dro yn helpu i leihau rhwystredigaethau plant bach.
  • Mae arwyddo yn datblygu sgiliau mathemateg cynnar iawn fel ymwybyddiaeth o rif a siâp, hy yr angen i dapio’ch llaw ddwywaith i Mam, y siâp crwn a wneir i gynrychioli pêl.
  • Mae arwyddo yn cynorthwyo gyda datblygiad gwybyddol wrth i blant ddefnyddio’r ddwy law i wneud eu harwyddion (datblygu sgiliau dwyochrog)

Cymerwch gip ar ychydig o’r hwyl rydyn ni’n ei gael gydag arwyddion.https://www.facebook.com/meithrinfaserbachcyf/videos/195283954961588