Iechyd

Mae awyr iach, cael hwyl, diet iach a digon o ymarfer corff yn rhan o’r arferion beunyddiol ym Meithrinfa Sêr Bach ac mae pob un ohonynt yn cefnogi iechyd meddwl a lles eich plentyn.

Gall plant gael mynediad i ardaloedd cysgu clyd ac ystafelloedd synhwyraidd ar gyfer amser tawel, myfyrio a chysgu ganol dydd tra bod plant eraill yn mwynhau dringo, dawnsio, rhedeg a datblygu agwedd iach tuag at ymarfer corff.

Rydym yn annog plant i wneud dewisiadau doeth, mae ganddynt ymdeimlad o berchnogaeth yn y feithrinfa ac yn dysgu am annibyniaeth gydag arweiniad gan staff cariadus a gofalgar.

Ni oedd y feithrinfa gyntaf ar Ynys Môn i gynnal y Wobr Boliau Bach ar gyfer Prydau Iach a byrbrydau

Mae ein bwydlen yn amrywio bob wythnos ac mae pob pryd yn gartrefol. Os cofrestrwch eich plentyn yn Sêr Bach byddwch yn cael mynediad i’n ap cyfathrebu rhieni sydd â manylion y bwydlenni am bob wythnos. Gofynnwch i ni am unrhyw ofynion dietegol arbennig sydd gennych chi.