Sut i Ddechrau’r Broses Archebu

Cymerwch gip o gwmpas…. Dyma ddolen i’n rhith-daith.https://fb.watch/7rGhsIi_Kj/

Os hoffech chi edrych o gwmpas yn bersonol, dim ond ar ôl 5.30yp y gallwn ei gynnig yn ystod y sefyllfa bresennol gyda Cofid 19 ond mae hwn hefyd yn gyfle da i chi gael sgwrs a dod i’n hadnabod ychydig.

Mae gan ein tudalen ‘Facebook’ lawer o wybodaeth hefyd am yr hyn sy’n digwydd yn y feithrinfa. Cymerwch gip.

Os ydych eisiau archebu lle, bydd gofyn i chi dalu blaendal a chwblhau’r holl waith papur perthnasol. Ychydig wythnosau cyn eich dyddiad cychwyn byddwn yn dechrau sesiynau setlo mewn. Nid oes unrhyw dâl am y rhain. Nid oes patrwm wedi’i bennu ymlaen llaw ar gyfer nifer y sesiynau, mae pob plentyn a phob rhiant / teulu yn wahanol. Yr unig beth rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod chi’n dod gyda’ch plentyn am yr sesiwn cyntaf er mwyn i ni allu edrych trwy’r gwaith papur. Hefyd, gall eich plentyn eich gweld chi’n gyffyrddus, yn hapus ac yn hamddenol gyda ni. Mae hyn yn eithriadol o bwysig. Ni allwn bwysleisio pwysigrwydd y sesiynau hyn yn ddigonol i helpu’ch plentyn ar ei gamau cyntaf tuag at fod yn hapus ac yn hyderus yn y feithrinfa.

Mae yna rai manylion ymarferol amdanon ni y byddwch chi eisiau gwybod a fydd yn eich helpu i wneud eich penderfyniad.