Ein Nôd

Ein nôd ar gyfer pob teulu a phlentyn sy'n defnyddio ein gwasanaethau yw
  • Sicrhau bod plant yn mwynhau diwrnodau hudol, gwneud atgofion hyfryd a ffrindiau arbennig.
  • Gofalu am bob plentyn, parchu a gwerthfawrogi eu hunigoliaeth, a’u hannog i ofalu am ei gilydd.
  • Cefnogi gwerthoedd rhieni wrth fagu eu plant i fod yn hapus ac yn gymdeithasol, gan roi’r dechrau gorau posibl i’w plentyn mewn bywyd.
  • Darparu amgylchedd diogel, gofalgar ac ysgogol lle gall pob plentyn ddatblygu ei botensial wrth ddod yn ddysgwyr annibynnol.
  • Annog agweddau cadarnhaol tuag at darddiad hiliol, gwahaniaeth mewn rhyw ac anabledd
  • Annog iechyd a lles disgyblion yn y feithrinfa trwy ddarparu prydau bwyd a byrbrydau iach a datblygu agweddau iach tuag at ddeiet ac ymarfer corff.
  • Darparu ffiniau clir mewn ymddygiad a chefnogi’r plant yn sensitif i chwarae o fewn y ffiniau hyn trwy atgyfnerthu ymddygiad da yn gyson gyda chanmoliaeth a gwobrau.
  • Darparu gofal plant rhesymol, hygyrch o’r ansawdd uchaf i bob teulu.
  • Darparu cariad, gofal cyfeillgarwch a chefnogaeth i bawb sydd â chysylltiad â Sêr Bach.
Ein hystafelloedd chwarae

Gweld, Clywed, Teimlo, Mwynhau, Dysgu.

  • Mae pawb yn Meithrinfa Sêr Bach yn cael cyfleoedd drwy’r dydd i chwarae’n rhydd ac archwilio , defnyddio eu dychymyg ac mwynhau cwmni ei gilydd. Mae pob plentyn yn dewis yr hyn yr hoffent ei wneud, nid oes rhaid i unrhyw un gymryd rhan mewn pob gweithgaredd ond trwy anogaeth dyner ac adeiladu berthnasoedd ymddiried y bydd y plant yn dysgu, yn rhannu ac yn datblygu llawer o sgiliau cymdeithasol, creadigol a phersonnol. Mae ein holl staff, o dan arweiniad goruchwylwyr a rheolwyr yr ystafell, yn dda iawn am gynllunio a chreu gweithgareddau sy’n ateb hoffterau’r plant er mwyn sicrhau eu bod yn mwynhau’r hyn y maent yn ei wneud.
  • Trwy gydol y dydd mae gennym arferion sy’n darparu’r strwythur y mae plant ifanc. Gofalu am anghenion personol pob plentyn yw’r peth pwysicaf rydyn ni’n ei wneud. Bydd plant sefydlog sydd yn bodlon yn dod yn chwaraewyr hyderus, hapus ac ymgysylltiol.
  • Cofnodir cynnydd pob plentyn yn eu llyfrau Dwylo Prysur ac ar gyfer plant sy’n mynychu mwy na dau ddiwrnod bob wythnos cedwir cyfnodolyn dysgu/datblygiad.

Ymddygiad Plant

  • Trwy eu hymddygiad mae plant ifanc fel arfer yn cyfathrebu angen neu maent wedi dysgu patrwm.
  • Ym Meithrinfa Ser Bach rydym yn treulio llawer o amser yn annog ymddygiadau cadarnhaol ac yn annog y plant i fod yn ffrindiau caredig a meddylgar. Weithiau bydd angen i ni wneud mwy a phan bydd yr angen yn codi byddwn yn dadansoddi’n ofalus pa angen y mae’r ymddygiad yn ei ateb ar gyfer plentyn unigol. Rydym yn llunio cynllun i helpu i oresgyn hyn a byddwn yn siarad a gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni i helpu’r plentyn. Weithiau mae angen i ni ofyn am gefnogaeth gan weithwyr proffesiynol eraill fel therapyddion lleferydd neu ymwelwyr iechyd, ond byddwn bob amser yn siarad â rhiant am hyn yn gyntaf. Gweler ein polisi ymddygiad am ragor o wybodaeth.

Anghenion Ychwanegol

  • Mae pawb yn wahanol ac yn Meithrinfa Sêr Bach rydym yn croesawu pob plentyn, rydym yn croesawu ac yn derbyn gwahaniaethau ein gilydd. Ein nod yw cael meithrinfa lle mae pawb, plant, staff ac ymwelwyr yn teimlo’n cyffyrddus ac yn hamddenol. Rydym yn annog pawb i ddefnyddio Makaton, defnyddio symbolau a gwrthrychau cyfeirio i helpu gyda chyfathrebu a dealltwriaeth plant. Rydym yn defnyddio ein hystafelloedd synhwyraidd i annog ymgysylltiad a helpu gydag ymlacio. Mae ein hardaloedd chwarae meddal yn helpu i ddatblygu sgiliau corfforol ac rydym yn annog pawb i fynd tu allan i gael rhywfaint o awyr iach yn ystod y dydd.
  • Os ydym yn credu bod plentyn angen cefnogaeth ychwanegol yna byddwn yn gwario amser yn edrych, meddwl, cynllunio a sgwrsio gyda rhieni i sicrhau bod pawb yn gyffyrddus ac yn barod i weithio gyda’i gilydd i gyflawni’r canlyniadau gorau i’r plentyn. Gyda mwy na dwy flynedd ar bymtheg o brofiad yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol mae Cheryl bob amser yn hapus ac yn barod i roi cymorth, hyfforddiant a chlust i wrando. Am fwy o wybodaeth gweler ein polisi anghenion ychwanegol.