Miri Mawr (Ystafell i Blant Bach)

Dwi wrth fy modd yn canu’r gloch yn y bore ac rydyn ni i gyd yn cael dweud helo. Dwi’n tynnu fy nghot ac esgidiau ac yn cadw fy mag ar y peg efo help wedyn dwi’n mynd i chwarae gyda fy ffrindiau. Dwi’n hoffi cael chwarae cyn gynted ag y byddaf yn cyrraedd y feithrinfa felly rydyn ni’n aros am ychydig i gael brecwast.

Ar ôl brecwast rydyn ni i gyd yn gwrando ar stori tra bod Caroline yn newid clytiau ac yn ein helpu i ddysgu defnyddio’r poti.

Weithiau rydyn ni’n gwisgo ein esgidiau glaw a’n cotiau ac yn mynd allan i chwarae. Ar adegau eraill rydyn ni’n cael hwyl arbennig yn chwarae synhwyraidd, rwyf bob tro yn wlyb!  Yna dywed Caroline ei bod hi’n amser tacluso. Rydw i yn un da am twtio ac yn hoffi cael sticer am gwneud. Mae’n amser i ni olchi ein dwylo a mynd am fyrbryd. 

Ar ôl fy niod a ffrwythau rydw i’n mynd gyda fy ffrindiau i chwarae, rydw i wrth fy modd yn paentio ac mae Ezra ac Esme yn archwilio hambwrdd synhwyraidd. Mae Nel yn hoffi gwneud cinio i’r babi yn y tŷ bach. Mae Ffion bob amser yn sicrhau bod llawer o baent coch i mi.

Tra rydyn ni’n tacluso, paratoi ar gyfer cinio a mynd i’r poti eto rydyn ni’n gwneud rhywfaint o ganu. Fy hoff gân yw ‘Un bys, dau bys’. Rydyn ni’n gantorion da iawn, dwi’n gwybod oherwydd mae Ffion yn dweud wrthym ni bob dydd.

Bob amser cinio rwy’n cael dewis lle dwi’n eistedd. Rwy’n hoffi eistedd wrth ymyl Esme. Fy hoff fwyd yw spaghetti bolognaise ac rwyf wrth fy modd â pwdins Ceri gyda mafon. Cyn casglu ein cysuron ac yn mynd i gael nap bach rydan ni i gyd yn cael golchi’r bwrdd. Mae hyn yn hwyl.  Dwi ddim bob amser yn mynd i gysgu, dwi’n meddwl bod Caroline yn gwybod ond mae hi’n eistedd gyda mi ac yn cadw cwmni i mi tra dwi’n gorffwys ychydig, yna dwi’n gallu mynd yn ôl i ystafell ni i chwarae gyda Ffion wrth i mi disgwyl i bawb ddeffro.

Yn gyflym iawn mae’n bryd i botiau, cewynnau a the.

Ar ôl te rydyn ni i gyd yn hoffi mynd allan i chwarae, rydyn ni’n rhedeg ac yn gyrru’r bws, yn defnyddio’r peiriannau cloddio. Mae’n hwyl gwneud te i Caroline yn y gegin fwd, tra rydan ni’n disgwyl i’n Mamau a’n Tadau ddod i’n nôl. Os yw’n bwrw glaw neu’n oer iawn gallwn fynd i wneud hud yn yr ystafelloedd synhwyraidd.