Y Cynnig Gofal Plant

Rydym yn falch o fod yn rhan o Gynnig Gofal Plant y Llywodraeth sy’n darparu gofal plant wedi’i ariannu i blant o’r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Gallech fod yn gymwys am hyd at 20 awr yn ystod y tymor a 30 awr am hyd at 9 wythnos o wyliau’r ysgol.

Mae ein hyblygrwydd gydag amseroedd gorffen yn golygu ei bod yn bosibl trefnu eich sesiynau i gael y gwerth gorau am eich arian o’r cynllun.

Gallech gael dau ddiwrnod o ofal plant am gyn lleied â £6.50 y dydd neu bedair sesiwn prynhawn a thalu dim ond £1.75 y dydd am de.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod yr opsiwn gorau i weddu i’ch anghenion.

Dyma rai enghreifftiau o’r dysgu a’r hwyl a gawn yn ein hystafelloedd Enfys fel rhan o’r Cynnig.