Tyne Robinson yw Arweinydd Ystafell Pili Pala.
🦋 Dechrau’r diwrnod – Rydym yn dechrau gyda chwtsh, gwên a digon o amser i bob plentyn ymgartrefu a theimlo’n ddiogel.
🦋 Chwarae rhydd ac archwilio– Mae’r plant yn cael cyfleoedd i archwilio gweithgareddau synhwyraidd, llyfrau, cerddoriaeth, chwarae blêr a theganau sy’n briodol i’w hoedran.
🦋 Byrbryd iach – Rydym yn mwynhau byrbryd iach cyn parhau gyda mwy o chwarae a gweithgareddau.
🦋 Trefn unigol – Rydym yn dilyn trefn unigol pob plentyn o ran bwydo, poteli a chysgu, gan sicrhau bod anghenion pob plentyn yn cael eu diwallu.
🦋 Amser yn yr awyr agored – Rydym wrth ein bodd yn mynd allan i archwilio, mwynhau’r awyr iach a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol syml.
🦋 Amser un-i-un – Mae ein staff yn treulio amser gwerthfawr gyda’r plant yn sgwrsio, canu, darllen straeon a chanu hwiangerddi, gan gefnogi eu cyfathrebu a’u geiriau cyntaf
🦋 Cinio blasus – Ar ôl cinio wedi’i goginio gartref, mae amser i ymlacio a mwynhau mwy o chwarae a phrofiadau synhwyraidd.
🦋 Dysgu drwy chwarae– Mae pob diwrnod yn llawn cyfleoedd i chwarae, archwilio, dysgu a datblygu mewn ffordd hwyliog a naturiol.
🦋 Cwtshys a gwenu – Yn fwy na dim, rydym yn sicrhau bod ein plant ieuengaf yn teimlo’n ddiogel, yn hapus, yn cael eu caru ac yn cael eu meithrin drwy gydol y dydd.